Ffetisiaeth

Llun o ffetis yn Ne Affrica gan y London Missionary Society, oddeutu 1900

Yn ôl llên gwerin, gwrthrych sydd â phwerau goruwchnaturiol, neu, yn benodol, gwrthrych gwneud sydd â phwerau dros bobl a phethau eraill ydyw ffetis (hefyd a elwir yn eilun). Mae'r gair yn dod o'r gair Ffrangeg fétiche, sy'n dod o'r gair Portiwgaleg feitiço, ac mae'r gair Portiwgaleg ei hun yn dod o'r gair Lladin facticius, sy'n golygu "artiffisial" a facere, "i wneud"). Yn y bôn, y priodoliad o werth ymfodol neu bwerau i wrthrych ydyw ffetisiaeth.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search